Memorandwm am yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth (EST)
Ail Gyllideb Atodol 2013-14
Y Pwyllgor Menter a Busnes - 19 Chwefror 2014
1.0 Cyflwyniad
Mae'r papur hwn yn ymateb i geisiadau penodol y Pwyllgor am wybodaeth ariannol:
· Gwybodaeth ychwanegol a diweddariad chwemisol yr Economi a Gwyddoniaeth 2013-14 y gofynnwyd amdano gan y Pwyllgor yn dilyn y broses o graffu Cyllideb Ddrafft 2014-15;
· Alldro a pherfformiad ar gyfer blwyddyn ariannol 2012-13 o'i gymharu gyda chynlluniau'r gyllideb;
· Gwybodaeth ychwanegol y gofynnwyd amdani gan y Pwyllgor ar gyfer cyllidebau allweddol; a'r
· Sefyllfa yn ystod y flwyddyn ar gyfer 2013-14 ar ôl cyhoeddi Ail gyllideb Atodol 2013-14 a'r penderfyniadau y seiliwyd y newidiadau hynny arnynt.
Ar ôl cyflwyno'r Ail Gyllideb Atodol ar 11 Chwefror 2014, rhoddir nodyn i'r Pwyllgor er mwyn esbonio'r newidiadau i'r dyraniadau o'i chymharu gyda'r gyllideb Atodol Gyntaf.
2.0 Diweddariad Chwemisol ac Ymateb i Argymhellion y Pwyllgor
2.1 Y Rhaglen Lywodraethu
Darparwyd y diweddariad chwemisol am y Rhaglen Lywodraethu ar gyfer Trafnidiaeth i’r sesiwn graffu ar 17 Hydref 2013. Mae'r diweddariad ar gyfer yr Economi a Gwyddoniaeth wedi ei atodi fel Atodiad A. Seiliwyd y diweddariad hwn, sy’n cynnwys datblygiadau cyfredol, ar y sefyllfa ym mis Medi 2013. Mae'n nodi rhai o fanylion ein hymrwymiadau allweddol rydym yn arwain arnynt yn y Rhaglen Lywodraethu, ynghyd â sylwadau amlinellol. Rydym yn cyfrannu hefyd at nifer o ymrwymiadau allweddol eraill gan gynnwys trechu tlodi a datblygu cynaliadwy. Mae'r gwaith yn mynd rhagddo i baratoi adroddiad diwedd blwyddyn y Rhaglen Lywodraethu. Bydd hwn yn rhoi diweddariad llawn am y cynnydd a sicrhawyd yn erbyn amcanion a chanlyniadau EST, ac fe'i cyhoeddir ym mis Mehefin.
Rydym yn parhau i sicrhau cynnydd da yn erbyn ein hamcanion yn y Rhaglen Lywodraethu. Mae twf a swyddi cynaliadwy wrth wraidd ein hamcanion, a chyflawni mewn perthynas â'r rhain yw'r brif flaenoriaeth. Rydym yn parhau i feithrin y perthnasoedd cadarn rhyngom ni a'r gymuned fusnes a phartneriaid cymdeithasol, er mwyn deall anghenion busnes a chyfrannu at ein polisi a'n camau gweithredu. Ar yr un pryd, rydym yn gweithio i sicrhau bod y seilwaith gofynnol yn bodoli er mwyn cynorthwyo twf economaidd trwy ddarparu gwasanaethau a seilwaith Trafnidiaeth gwell, ynghyd â'r broses barhaus o gyflwyno Cyflymu Cymru.
2.2 Mesur Perfformiad
Gofynnodd y Pwyllgor am ddiweddariad mewn perthynas ag allbynnau a chanlyniadau. Nodir y ffigurau diweddaraf ar gyfer y dangosyddion allweddol sy'n ymwneud â swyddi a thwf yn y tabl isod, ac maent yn adlewyrchu'r sefyllfa ar 31 Rhagfyr 2013:
Meysydd Busnes |
Swyddi a Grëwyd |
Swyddi a Ddiogelwyd |
Swyddi a Gynorthwywyd |
Buddsoddiad a Ysgogwyd £m |
Sectorau |
758 |
1,501 |
6,177 |
58 |
Entrepreneuriaeth |
3,158 |
1,121 |
0 |
|
Gwyddoniaeth ac Arloesedd |
242 |
492 |
371 |
31 |
Mynediad at Gyllid (gan gynnwys y Gronfa Fuddsoddi Sengl, Cyllid Cymru) |
1,034 |
909 |
493 |
46 |
Eraill |
4 |
590 |
135 |
|
Cyfanswm |
5,196 |
4,613 |
7,176 |
135 |
Mae'r ffigurau yn y tabl uchod yn cynrychioli'r sefyllfa a gofnodwyd ar ddiwedd Chwarter 3 ar gyfer meysydd busnes allweddol. Mae angen nodi'r pwyntiau canlynol mewn perthynas â'r ffigurau hyn:
· Mae EST yn casglu data am ystod eang o allbynnau sy'n cynnwys gweithgareddau a chanlyniadau. O ganlyniad i natur eang yr allbynnau hyn, mae'r ffigurau a ddarparir yn y tabl uchod yn ymwneud â swyddi a buddsoddiad a ysgogwyd yn unig, gan mai'r rhain yw'r prif amcanion ar gyfer yr Adran ac mae cryn dipyn o weithgarwch yr Adran yn ceisio cyfrannu at y ffigurau hyn.
· Caiff y ffigurau hyn eu cymryd ar ddiwedd chwarter tri, ac ni ddylid ystyried eu bod yn cynrychioli dilyniant llinol tuag at y cyfansymiau cyffredinol a fydd yn cael eu cyflawni ar ddiwedd y flwyddyn. Yn hanesyddol, gwelir gwelliant sylweddol mewn allbynnau yn ystod chwarter pedwar, pan gaiff prosiectau eu cwblhau a phan fydd modd hawlio'r allbynnau cysylltiedig. Fel arfer, caiff y gwaith o gasglu a dilysu'r allbynnau terfynol ar ddiwedd y flwyddyn ei gwblhau erbyn diwedd mis Mai.
· Mae'r ffigurau Sector uchod yn cynnwys allbynnau o gynlluniau megis Cronfa Twf Economaidd Cymru, Mewnfuddsoddi ac RBF, a gyflawnir gan dimau Sector. Darparir diweddariadau manwl am y cynlluniau hyn yn nes ymlaen yn y papur hwn.
O ganlyniad i faterion yn ymwneud ag amseru, ni cheir cydberthyniad uniongyrchol rhwng y gwariant yn ystod y flwyddyn a'r allbynnau a gyflawnir, sy'n golygu ei bod yn anodd ffurfio cymhariaeth ystyrlon hanner ffordd drwy'r flwyddyn. Mae'n fwy priodol darparu diweddariad blynyddol ar lefel weithredu.
2.3 Swyddi Mewnfuddsoddi
Fel sydd wedi’i drafod mewn pwyllgorau eisoes, mae bwlch rhwng cytuno ar fewnfuddsoddiad a rhoi’r prosiect “ar waith”, gyda’r buddsoddi a’r gyflogaeth gysylltiedig. Yn y flwyddyn ariannol hon, hyd at fis Rhagfyr 2013, gwelwyd o weithgaredd blynyddoedd blaenorol FDI bod cyfanswm o 1,672 o swyddi wedi’u cynorthwyo. Y targed ar gyfer 2013-14 yw 8,500.
2.4 Gwerthusiadau
Er mwyn cefnogi ein penderfyniadau ynghylch y gyllideb, mae rhestr o'r gwerthusiadau a gwblhawyd ac y maent wedi cychwyn ers 2013 wedi ei atodi yn Atodiad B, sy'n dangos ehangder y gweithgarwch gwerthuso a gyflawnwyd yn ddiweddar. Er bod rôl i gomisiynu gwerthusiadau allanol o bolisi a gwaith cyflawni, mae'n bwysig ein bod yn cynnal ffocws ar werth am arian ac yn dewis y dull gweithredu gorau tuag at sicrhau cyngor arbenigol a dysgu. Wrth ystyried y blaenoriaethau strategol ar gyfer swyddi a thwf, mae rôl y byrddau annibynnol megis Bwrdd Cynghorol Datblygu Diwydiannol Cymru a'r Paneli Sector, er enghraifft, yn bwysig hefyd. Mae cynnwys y sector preifat a rhanddeiliaid allweddol eraill yn gallu helpu nodi blaenoriaethau i'w gweithredu, gan gynnig cyngor ynghylch ble gellir gwneud gwelliannau.
Yn ogystal, mae'r Rhaglen Lywodraethu a'r adroddiadau blynyddol yn cynrychioli dull gweithredu priodol tuag at asesu cyflawniad yn erbyn ymrwymiadau a wnaethpwyd gennym. Mae'n nodi:
· Camau gweithredu allweddol ar gyfer y Llywodraeth
· Y dystiolaeth a ddefnyddir gennym er mwyn barnu a yw'r camau gweithredu yn debygol o gyflawni; a'r
· Dangosyddion a ddefnyddir gennym er mwyn mesur cynnydd o ran yr heriau hirdymor.
3.0 Alldro a Pherfformiad ar gyfer Blwyddyn Ariannol 2012-13
3.1 Darparir yr alldro o'i gymharu gyda chynlluniau'r gyllideb ar lefel Camau Gweithredu yn Atodiad C. Mae wedi cael ei ailddatgan ar ffurf y tablau a gyhoeddwyd er mwyn cynnwys Trafnidiaeth, a oedd ym mhortffolio'r Gweinidog Llywodraeth Leol a Chymunedau. Rheolwyd y gwariant yn 2012-13 ar gyfer blaenoriaethau Adran yn y portffolios blaenorol.
Cyhoeddwyd y diweddariad blynyddol am gyflawniadau'r Rhaglen Lywodraethu ym mis Mehefin 2013 ac mae modd troi ato ar wefan Llywodraeth Cymru:
http://wales.gov.uk/about/programmeforgov/?lang=cy
Yn 2012-13, roedd cyfanswm y swyddi a gefnogwyd yn dod i 17,173, gan greu 7,637 o swyddi, diogelu 7,661 o swyddi a chynorthwyo 1,875 o swyddi. Mae hyn yn cymharu â tharged rheoli o 18,401.
Gosodir targedau gyda'r potensial o gyflymu prosiectau sydd ar y gweill. Mae'r perfformiad go iawn yn adlewyrchu'r natur ymatebol wrth ymyrryd er mwyn cynorthwyo'r economi yn ystod y flwyddyn ariannol. Gwelwyd gostyngiad yn nifer y swyddi a grëwyd, yn bennaf o ganlyniad i lithriad ac amodau economaidd ar yr adeg honno. Ar y cyfan, llwyddwyd i gasglu'r allbynnau gan brosiectau a gafodd eu hoedi yn ystod 2012-13, yn gynnar yn 2013-14.
4.0 Gwybodaeth Ychwanegol y Gofynnwyd amdani gan y Pwyllgor ynghylch Cyllidebau Allweddol
Mae cyllidebau ar gyfer yr Adran yn cyd-fynd â chynlluniau cyflawni a baratowyd o ganlyniad i'r adolygiad manwl blynyddol o gynlluniau gwariant. O ystyried yr amgylchiadau economaidd presennol, mae cyllidebau dan bwysau cynyddol ac mae prosiectau yn cael eu monitro yn barhaus er mwyn sicrhau eu bod yn cyflawni eu canlyniadau. Pan welir nad ydynt yn cyflawni fel y disgwyl, caiff yr adnodd ei ailneilltuo i ymyriadau a fydd yn sicrhau swyddi a thwf. Caiff yr ystyriaethau hyn eu cynnwys yn y cylch cynllunio busnes ac maent yn cyfrannu at y penderfyniadau a wneir ynghylch y dyraniadau terfynol a'r targed ar gyfer pob maes busnes yn y dyfodol.
Trwy gyfrwng y broses ragamcanu fisol, byddwn yn asesu'r cynnydd yn barhaus, gan ail flaenoriaethu'r gyllideb ar sail blaenoriaethau sy'n dod i'r amlwg a pherfformiad pob prosiect.
4.1 Hyrwyddo Masnach a Mewnfuddsoddi
Ar ôl ad-drefnu Busnes Rhyngwladol Cymru, cafodd gweithgarwch masnach a buddsoddi ei gynnwys mewn datrysiadau busnes a phrosiectau mawr sy'n cynorthwyo cyflawni sectoraidd. Mae Masnach a Mewnfuddsoddi wedi bod yn is-adran ar wahân er 1 Hydref 2012.
Ar ddechrau blwyddyn ariannol 2012-13, roedd y gyllideb ar gyfer Masnach a Mewnfuddsoddi yn rhan o Linell Wariant yn y Gyllideb ar gyfer Datblygiadau ar y Gweill. Roedd y Llinell Wariant hon yn y Gyllideb yn cynnwys gweithgareddau er mwyn cynorthwyo'r sectorau blaenoriaeth a phrosiectau mawr. Swm y gyllideb ddangosol ar gyfer gweithgareddau Masnach a Mewnfuddsoddi oedd £1.737m a'r sefyllfa o ran alldro oedd £0.658m. Roedd y diffyg o ganlyniad i'r amser arwain wrth ddatblygu'r prosiectau ar y gweill a sefydlu'r tîm.
Roedd y swyddi mewnfuddsoddi uniongyrchol tramor i Gymru a gyhoeddwyd gan Fasnach a Buddsoddi y DU yn ei adroddiad blynyddol ar gyfer 2012-13 yn rhoi cyfanswm rhagolwg o ychydig dros 7,000 o swyddi, gwelliant arwyddocaol o'i gymharu â'r perfformiad a welwyd yn ystod y flwyddyn flaenorol. Yn yr un modd, gwelwyd nifer y prosiectau i Gymru a adlewyrchwyd yn adroddiad blynyddol Masnach a Buddsoddi y DU yn tyfu o 23 yn 2011-12 i 67 yn 2012-13.
Mae marchnata yn hanfodol ar gyfer masnach a mewnfuddsoddi. Mae ymgyrch Just Ask Wales yn canolbwyntio ar sectorau a'i nod yw ysgogi buddsoddiad ac ymholiadau newydd er mwyn helpu creu cyfleoedd ar gyfer swyddi yng Nghymru yn y dyfodol a chynorthwyo'r ffocws strategol ar Swyddi a Thwf. Mae modd gweld gwybodaeth bellach trwy droi at:
4.2 Sectorau Blaenoriaeth
Ar gyfer 2012-13, caiff y Gyllideb Derfynol ei chymharu gyda'r gwariant go iawn ar gyfer y sectorau blaenoriaeth yn Atodiad D. At ei gilydd, roedd y gyllideb yn £63.1m yn erbyn alldro o £60.8m.
Mae unrhyw newidiadau yn ystod y flwyddyn yn ymwneud â'r rheidrwydd i'm Hadran barhau i fod yn hyblyg wrth fodloni anghenion yr economi sy'n newid, a chynnig y cymorth cywir i fusnesau ar yr adeg gywir. Roedd yr amrywiadau yn y gyllideb o ganlyniad i lithriad rhai prosiectau i flynyddoedd ariannol yn y dyfodol ac wrth i gwmnïau ailosod eu hamcanestyniadau ariannol. Ar draws y sectorau, caiff hyn ei wrthbwyso ar gyfer cyfleoedd newydd a phrosiectau eraill sy'n cael eu dwyn ymlaen.
Pennir amcanion y sectorau gan y paneli sector ac fe'u cyhoeddwyd yn y cynllun cyflawni sectorau sydd ar gael yn:
http://wales.gov.uk/docs/det/publications/130125deliveryplancy.pdf.
Yn ystod y flwyddyn, adroddodd y sectorau bod 1,306 o swyddi wedi eu creu a bod 3,410 pellach wedi eu diogelu. Yn ogystal, cynorthwywyd 1,875 o swyddi. Llwyddodd cyflawniad y sector i ddenu gwerth dros £95m o fuddsoddiad i economi Cymru o sectorau cyhoeddus a phreifat allanol hefyd.
O ganlyniad i hyd a chymhlethdod rhai prosiectau, bydd y gweithgarwch yn aml yn ymestyn dros nifer o flynyddoedd a bydd y gwariant a'r cyflawniad yn digwydd yn ystod gwahanol flynyddoedd ariannol.
4.3 Cynllun Ad-dalu Cyllid Busnes
Ar 31 Mawrth 2013, gwnaethpwyd gwerth £3.2m o gynigion cyllid busnes ad-daladwy.
Mae'r gyllideb yn parhau i fod yn hyblyg a chaiff busnesau eu cynorthwyo gyda chyllid busnes ad-daladwy pan fo hynny'n briodol. Mae pob achos yn destun arfarniad ac yn cael ei asesu o ran ei werth am arian a'i allu i gynnal swyddi a thwf.
4.4 Ardaloedd Menter
Mae datblygiad yr Ardaloedd Menter yn drawsbynciol ac mae cyflawni her y polisi yn gofyn am gysoni adnoddau ar draws Llywodraeth Cymru a phartneriaid lleol er mwyn creu swyddi a thwf o fewn a thu hwnt i'r Ardaloedd Menter.
Yn 2012-13, bu Byrddau'r Ardaloedd Menter yn datblygu eu cynlluniau ar gyfer yr ardaloedd ac roedd y gwariant ar gyfer y flwyddyn yn werth £11.4m, a ddefnyddiwyd ar gyfer amrediad o weithgareddau megis astudiaethau dichonoldeb, cynllun ardrethi busnes, prynu tir i'w ddatblygu, adfer safleoedd a gwaith cyfalaf arall. Mae'r datblygiadau hyn wedi cael eu cynnwys mewn datganiadau rheolaidd a wnaethpwyd mewn Cyfarfodydd Llawn. Mae adroddiad Cynnydd Ardaloedd Menter a gyhoeddwyd ym mis Hydref 2013 yn cynnwys rhagor o wybodaeth:
http://enterprisezones.wales.gov.uk/sites/test.enterprisezoneswales.co.uk/files/EZ_progress_update_281013.pdf
Caiff y perfformiad ei olrhain yn erbyn y dangosyddion perfformiad
ar gyfer Ardaloedd Menter Cymru, a gyhoeddwyd ar ddiwedd 2013. Bydd
y dangosyddion hyn yn monitro ac yn olrhain y cynnydd dros y tymor
hwy mewn meysydd allweddol megis swyddi, buddsoddiad, datblygu tir,
cymorth busnes ac ymholiadau. Yn ogystal, cyhoeddwyd targedau
rhagarweiniol ar gyfer 2014-15 ac mae modd gweld y rhain trwy droi
at:
Mae gwaith a gweithgarwch cynllunio yn parhau gyda'r holl Sectorau ynghylch datblygu canlyniadau astudiaethau, argymhellion uwchgynlluniau a gwaith cyfalaf.
4.5 Cymorth ar gyfer Microfentrau
Yn 2012-13, roedd cyllideb o £7.84m ar gael er mwyn cynorthwyo Microfentrau. Roedd y cyllid yn cynnwys cymorth ar gyfer gweithgareddau megis: Canolfannau Gwasanaeth Rhanbarthol, bylchau cyflenwi, Busnes Cymru, digwyddiadau ymgysylltu busnes a mentrau Cyfrifoldeb Cymdeithasol Corfforaethol.
Ar ôl cyhoeddi'r Adroddiad Microfusnesau ym mis Ionawr 2012, ailbennwyd ffocws y Gwasanaeth Canolfannau Rhanbarthol er mwyn cynnig cysyniad Siop Un Stop ar gyfer microfusnesau yng Nghymru, a lansiwyd ym mis Ionawr 2013. Mae'r gwasanaeth a ddarparir ar gael i fentrau bach a chanolig hefyd. Mae'r gwasanaethau yn cynnwys cydraddoldeb, cyngor amgylcheddol ac ynghylch caffael, cymorth masnachol rhyngwladol a gwasanaeth gwybodaeth a chyfeirio ar gyfer yr holl fusnesau trwy gyfrwng rhwydwaith o 11 canolfan wedi'u lleoli ar draws Cymru. Yn ogystal, lansiwyd gwasanaeth Mentora Busnes Cymru penodedig ym mis Hydref 2013 er mwyn galluogi busnesau i fanteisio ar gymorth mentora gan gymysgedd eang ac amrywiol o bobl fusnes profiadol.
Roedd yr Adroddiad Microfusnesau yn pwysleisio hefyd mai rôl y llywodraeth yn y dyfodol ddylai fod i hwyluso a llenwi'r bylchau pan fo'r farchnad yn methu. Mae gan y sector cyhoeddus, y sector preifat a'r trydydd sector rolau allweddol wrth ddarparu cymorth gwasanaeth siop un stop Busnes Cymru.
Felly, roedd 2012-13 yn flwyddyn bontio ac ail neilltuwyd adnoddau i flaenoriaethau eraill yn ystod y flwyddyn, gydag alldro o £6.76m. Nodir yr allbynnau allweddol er mwyn cynorthwyo microfusnesau/busnesau bach a chanolig yn y tabl isod:
Allbynnau |
Gwasanaeth Canolfannau Rhanbarthol Ebrill – Rhagfyr 2012 |
Gwasanaeth siop un stop Busnes Cymru Ionawr – Mawrth 2013 |
Cyfanswm |
Mentrau a Gynorthwywyd |
3,309 |
1,501 |
4,810 |
Gwybodaeth a chyfeirio |
10,228 |
2,843 |
13,071 |
Swyddi a Grëwyd |
233 |
169 |
402 |
Swyddi a Ddiogelwyd |
288 |
268 |
556 |
Caiff perfformiad y ddau wasanaeth a ddarparir ei fonitro yn rheolaidd trwy gyfrwng trefniadau rheoli cyflawniad a chontractau. Yn ogystal, mae prosesau bodlonrwydd cwsmeriaid sefydledig yn bodoli. Cynhaliwyd gwerthusiad annibynnol tua diwedd 2013 er mwyn paratoi ar gyfer gwerthusiad terfynol darpariaeth wedi'i hariannu gan UE ar gyfer Ennyn Diddordeb Cwsmeriaid/Busnes Cymru, a nodir manylion hwn yn Atodiad B. Cynyddwyd y targedau a'r canlyniadau ar gyfer blynyddoedd ariannol 2013-14 a 2014-15 er mwyn adlewyrchu ailgyfeiriad y gwasanaeth.
Lansiwyd y Gronfa Fenthyciadau i Ficrofusnesau ym mis Mawrth 2012, a oedd yn werth £6m. Hyd yn hyn, mae'r gronfa wedi buddsoddi dros £1m ac mae wedi creu a diogelu 284 o swyddi tan ddiwedd mis Rhagfyr.
4.6 Cymorth ar gyfer Mentrau Cymdeithasol
Yn 2012-13, neilltuwyd cyllideb o £881,000 ar gyfer mentrau cymdeithasol, gydag alldro go iawn o £854,000. Roedd y cyllid yn cynnwys cymorth ar gyfer Canolfan Cydweithredol Cymru, Cynghrair Mentrau Cymdeithasol Cymru, Cwmnïau Cymdeithasol Cymru, Cymdeithas Ymddiriedolaethau Datblygu Cymru a Mynydd Du.
Yn ystod 2012-13, cynhaliwyd adolygiadau gwerth am arian ar gyfer trefniadau cyllid craidd er mwyn datblygu mentrau cymdeithasol. Roedd y canlyniadau allweddol fel a ganlyn:
· terfynu'r cyllid ar gyfer Cynghrair Mentrau Cymdeithasol Cymru ar ôl ymrwymiad 2012-13. Fodd bynnag, gwelwyd materion yn codi ynghylch hyfywedd ariannol y sefydliad, a therfynwyd y cyllid ar unwaith;
· parhau i ddarparu cyllid craidd o £259,000 ar gyfer Cymdeithas Ymddiriedolaethau Datblygu Cymru tan fis Mawrth 2015 er mwyn cynorthwyo gyda'r broses o greu a datblygu ymddiriedolaethau datblygu lleol newydd ac sy'n dod i'r amlwg yng Nghymru; a
· darparu cyfnod pellach o gyllid craidd sy'n werth £106,000 ar gyfer Cwmnïau Cymdeithasol Cymru, ar gyfer y tair blynedd tan fis Mawrth 2016, sy'n angenrheidiol er mwyn caniatáu'r ymgysylltu hirdymor gofynnol ar gyfer cwmnïau cymdeithasol, er mwyn iddynt ffurfio partneriaethau newid cymdeithasol a busnesau cwmnïau cymdeithasol yng Nghymru. Bydd Cwmnïau Cymdeithasol Cymru yn cael £150,000 ar gyfer prosiect peilot i ddatblygu modelau cwmnïau cymdeithasol sy'n arbenigo ym maes gofal plant a gofal cymdeithasol.
Yn ogystal, mae cyllid craidd o £350,000 am y tair blynedd o 2013 i 2015 wedi ei gadarnhau ar gyfer Canolfan Cydweithredol Cymru i ddatblygu cwmnïau cydweithredol a sefydliadau cydfuddiannol eraill yng Nghymru.
Bob blwyddyn, mae Llywodraeth Cymru yn darparu oddeutu £500,000 ar gyfer aelodaeth a chymorth mentrau cymdeithasol arbenigol o fewn y sector mentrau cymdeithasol. Yn ogystal, mae modd i fentrau cymdeithasol fanteisio ar gymorth cyngor busnes sydd ar gael trwy'r Adran. Caiff canlyniadau ac allbynnau eu monitro yn erbyn y llythyr cynnig grant yn ystod cyfarfodydd chwarterol gyda'r sefydliadau.
Gallai'r dyraniadau o fewn y gyllideb newid yn dilyn adroddiad Comisiwn Cwmnïau Cydweithredol a Chydfuddiannol Cymru dan Gadeiryddiaeth Athro Andrew Davies. Cylch gwaith y Comisiwn oedd gwneud argymhellion ynghylch tyfu a datblygu'r economi gydweithredol a chydfuddiannol yng Nghymru er mwyn creu swyddi a chyfoeth.
Yn dilyn y penderfyniad i derfynu'r cyllid ar gyfer Cynghrair Mentrau Cymdeithasol Cymru, er mwyn parhau i ddangos cefnogaeth ar gyfer y sector mentrau cymdeithasol, cytunodd y Gweinidog y byddai llais dros fentrau cymdeithasol yn parhau i gael ei gynorthwyo. Mae Adolygiad wedi cychwyn, a gynhelir gan Robert Lloyd Griffiths (Cadeirydd Bwrdd Strategol Busnes Cymru a Chyfarwyddwr (Cymru) Sefydliad y Cyfarwyddwyr), er mwyn rhoi cyngor am egwyddorion a rôl wedi'i ddiweddaru ac ynghylch a ddylid cynnwys y swyddogaeth ddiwygiedig hon o fewn adain newydd sefydliad cynnal. Yn ogystal, gallai argymhellion y comisiwn lywio cyfeiriad y cymorth hwn yn y dyfodol.
4.7 Cronfa Twf Economaidd Cymru
Yn 2012-13, swm y gyllideb a neilltuwyd ar gyfer Cronfa Twf Economaidd Cymru oedd £30m. Gan ymateb i lefel uchel y diddordeb a ddangoswyd gan y gymuned fusnes, dyblwyd y swm gwreiddiol a neilltuwyd, sef £15m. Gwnaeth y gronfa ymrwymiadau a oedd yn werth oddeutu £31m i 118 o brosiectau, gyda'r potensial y byddai 3,400 o swyddi yn cael eu creu/diogelu. Ar sail gwerth am arian, y gost gyfartalog fesul swydd oedd £9,000.
Hyd yn hyn, mae'r gronfa wedi gwario dros £21 miliwn. Defnyddiwyd y cronfeydd a oedd yn weddill ar gyfer cymorth busnes ehangach. Roedd Cronfa Twf Economaidd Cymru 1 yn becyn ysgogi economaidd gyda chyfyngiad amser, a oedd yn ceisio dwyn prosiectau yn eu blaen y byddai modd iddynt ddiogelu a chreu swyddi, gan fanteisio i'r eithaf ar y potensial buddsoddi mewn cyfnod o ansicrwydd economaidd. O ganlyniad i'r amodau economaidd, ni wnaeth nifer o'r prosiectau symud yn eu blaen neu fe'u gwelwyd yn symud yn eu blaen ar raddfa lai. Ar sail gwerth am arian, mae'r gost gyfartalog fesul swydd yn parhau i fod yn £9,000.
Yr allbynnau allweddol ar gyfer y gronfa hon yw'r swyddi sy'n cael eu creu a/neu eu diogelu. Hyd yn hyn, mae nifer go iawn y swyddi a gafodd eu creu neu eu diogelu ychydig dros 2,300, a bydd oddeutu 180 o swyddi ychwanegol yn cael eu creu yn ystod y ddwy flynedd ariannol ddilynol. Bwriedir cynnal gwerthusiad ffurfiol o Gronfa Twf Economaidd Cymru 1 yn gynnar yn ystod 2014-15.
Yn dilyn llwyddiant y gronfa, ac er mwyn cydnabod yr ansicrwydd economaidd sy'n parhau, lansiwyd Cronfa Twf Economaidd Cymru 2 sy'n werth £30m, ac y mae ganddi'r potensial i greu a diogelu hyd at 3,000 o swyddi. Caiff y cyllid ei neilltuo fel a ganlyn:
· 2013-14 £10m: er mwyn ystyried prosiectau llai y mae angen grant o rhwng £50,000 a £100,000 arnynt.
· 2014-15 £20m: er mwyn cynorthwyo prosiectau mwy, y mae angen grant o dros £100,000 arnynt.
Mae'r holl gynigion wedi cael eu gwneud nawr dan gam cyntaf y cynllun, a gwelwyd y canlyniadau canlynol: 124 o gynigion sy'n werth £9.33 miliwn. Disgwylir i'r prosiectau hyn greu 986 o swyddi a diogelu 877 o swyddi.
4.8 Trafnidiaeth Integredig a Chynaliadwy
Cyflawnwyd prosiectau trafnidiaeth yn unol â'r cynlluniau yn 2012-13. Pan ddaeth cyllid ychwanegol ar gael yn yr Adran Llywodraeth Leol a Chymunedau ehangach, gwnaethpwyd buddsoddiad pellach mewn trafnidiaeth. Mae hyn wedi galluogi i nifer o brosiectau awdurdodau lleol gael eu cwblhau neu eu dwyn ymlaen, ynghyd â buddsoddiad sylweddol yng ngweithrediad effeithiol a'r gwaith o gynnal a chadw rhwydwaith y cefnffyrdd.
Cynllunio Trafnidiaeth Rhanbarthol
Fel y nodwyd yn y llythyr dyddiedig 7 Tachwedd 2014 a oedd yn ymateb i argymhellion y Pwyllgor, mae swyddogion yn cynnal gwerthusiad o weithgarwch cynllunio trafnidiaeth cenedlaethol a rhanbarthol. Rhoddir diweddariad erbyn y Pasg 2014.
Y newid allweddol wrth ddatblygu trefniadau newydd er mwyn ariannu gwasanaethau bws oedd dwyn ynghyd y cyllid ar wahân a delir i weithredwyr ac awdurdodau lleol o fewn un ffrwd ariannu sengl, gan sicrhau ei fod yn cael ei wario yn y mannau lle y byddai'n cael yr effaith fwyaf. Gofynnodd y Gweinidog ar y pryd i'r Consortia Trafnidiaeth Rhanbarthol i weinyddu'r trefniadau ariannu newydd ac i ddatblygu strategaethau rhanbarthol a fyddai'n nodi llwybrau allweddol.
Roedd fy Natganiad Llafar i Gynulliad Cenedlaethol Cymru yn ddiweddar yn amlinellu'r camau nesaf o ran cyllido gwasanaethau bws.
Tocynnau teithio rhatach ar fws
Er sawl mis, mae swyddogion wedi bod yn trafod amodau trefniant ad-dalu newydd o 1 Ebrill 2014 gyda chynrychiolwyr awdurdodau lleol a'r diwydiant bysiau. Roedd hyn yn dilyn adolygiad annibynnol o'r trefniadau ad-dalu presennol, a oedd yn nodi bod gweithredwyr yn cael eu talu ormod.
Trafnidiaeth gymunedol
Yn aml, mae trafnidiaeth gymunedol yn ddewis amgen addas i wasanaethau bws confensiynol, yn enwedig mewn ardaloedd gwledig neu anghysbell. Mae cymorth parhaus ar gyfer trafnidiaeth gymunedol, a'r broses o fonitro gwasanaethau, yn cael ei ddarparu gan y Consortia Trafnidiaeth Rhanbarthol.
Yn ogystal, mae Llywodraeth Cymru yn ariannu'r Gymdeithas Cludiant Cymunedol yng Nghymru i ddatblygu a chryfhau'r sector trafnidiaeth gymunedol.
Cydymffurfiaeth bysiau
Mae gofyn i weithredwyr bysiau gofrestru manylion eu gwasanaeth gyda'r Comisiynydd Traffig. Mae gan y Comisiynydd bwerau i osod cosbau ariannol ar weithredwyr nad ydynt yn llwyddo i gydymffurfio gydag amodau eu cofrestriad, ond mae'n dibynnu ar gyfeiriadau a wneir iddo os yw'n mynd i ystyried camau o'r fath. Telir unrhyw "ddirwyon" o'r fath i Lywodraeth Cymru.
Mae Llywodraeth Cymru yn ariannu Bus Users UK yng Nghymru i gyflogi tri Swyddog Cydymffurfiaeth Bysiau amser llawn, y mae eu cyfrifoldebau yn cynnwys monitro gwasanaethau bws ar ein rhan. Fel hyn, pan fydd Defnyddwyr Bysiau neu awdurdodau lleol neu Lywodraeth Cymru yn dod yn ymwybodol o fethiannau ar ran gweithredwr bysiau i redeg gwasanaethau yn unol â'i gofrestriad, byddwn yn gofyn i'r Swyddogion Cydymffurfiaeth Bysiau i wneud gwaith monitro er mwyn cadarnhau'r ffeithiau. Yna, adroddir y canfyddiadau hynny i'r Comisiynydd Traffig ar gyfer ei adolygiad.
Mae'r Comisiynydd Traffig wedi gwneud sylwadau ffafriol iawn am weithgareddau'r Swyddogion Cydymffurfiaeth Bysiau ac effaith gadarnhaol eu gwaith ar brydlondeb a dibynadwyedd gwasanaethau bws yng Nghymru.
Bus Users UK yng Nghymru
Mae gan Bus Users UK swyddfa a thri aelod o staff yng Nghymru. Mae'r sefydliad yn darparu cymorth gwerthfawr dros ben i weithredwyr bysiau, awdurdodau lleol ac eraill yn lleol er mwyn sicrhau bod buddiannau teithwyr bws yn cael eu cynrychioli mewn ffordd effeithiol.
Yn ogystal, mae Bus Users yn cyfrannu mewn ffordd hynod o effeithiol at ddatblygiad polisi, gan gynrychioli teithwyr sy'n cwyno am eu gwasanaethau bws.
Mae Bus Users yn trefnu ac yn cynnal hyd at 20 o gymorthfeydd i deithwyr bws bob blwyddyn ar draws Cymru, er mwyn galluogi teithwyr i gael cyfarfod wyneb yn wyneb gyda gweithredwyr bysiau ac awdurdodau lleol.
Yn ddiweddar, mae Bus Users UK wedi cytuno ymuno â'r Panel Cynghori Defnyddwyr Trafnidiaeth Gyhoeddus newydd, a fydd yn cynghori'r Gweinidog ynghylch materion ar gyfer defnyddwyr trafnidiaeth gyhoeddus.
Teithio Llesol a Chynaliadwy
Yn 2012-13, ariannwyd amrediad o fentrau er mwyn datblygu seilwaith teithio llesol ac er mwyn annog pobl i ddefnyddio ffurfiau teithio llesol a chynaliadwy.
Cafodd cynllun Llwybrau Diogel mewn Cymunedau £5.2m, a bu hyn yn fodd o alluogi amrediad o welliannau o ran diogelwch a hygyrchedd cymunedau ar draws Cymru wrth gerdded neu feicio.
Buddsoddwyd £1.1m yn y prosiect cynlluniau teithio personol. Gan ganolbwyntio ar gymunedau yng Nghaerdydd a De Cymru, bu'r rhaglen hon yn darparu cyswllt 1:1 a gwybodaeth wedi'i theilwra ynghylch dewisiadau teithio cynaliadwy mewn cymunedau. Mae'r canlyniadau cynnar yn addawol ac mae'r contractwr yn paratoi dadansoddiad mwy manwl o'r cam cyntaf.
Yn ogystal, mae'r prosiect hwn yn cynorthwyo gwaith gydag ysgolion a busnesau, ac mae wedi arwain at ddatblygu offerynnau a deunyddiau y mae modd eu defnyddio yn fwy eang. Mae'r prosiectau eraill a gynorthwywyd yn cynnwys Beiciwch Hi.
Gwasanaethau Trên
Yn 2012-13, gwelwyd Llywodraeth Cymru yn parhau i ariannu masnachfraint Cymru a'r Gororau a weithredir gan Drenau Arriva Cymru. Dyfarnwyd y contract yn 2003 ac mae'n para am 15 mlynedd. Ym mis Ebrill 2006, trosglwyddwyd y cyfrifoldeb dros reolaeth y fasnachfraint o ddydd i ddydd o Lywodraeth y DU i Lywodraeth Cymru.
Yn ychwanegol i'r fasnachfraint graidd a nodwyd yn wreiddiol, roedd cyllid Llywodraeth Cymru yn ystod 2012-13 yn cynnwys cymorth ar gyfer nifer o wasanaethau ychwanegol. Roedd y rhain yn cynnwys darparu capasiti ychwanegol ar Reilffyrdd y Cymoedd, Cambrian a Lein y Gororau, gwasanaeth mwy aml ar sawl rheilffordd (e.e. Rheilffordd Merthyr, llwybr Caerdydd-Caergybi, Llinell Calon Cymru a Lein y Gororau) a chynllun tocynnau teithio rhatach ar y rheilffyrdd.
Nodir manylion y blaenoriaethau ar gyfer rheilffyrdd yn y dyfodol a'u cyfraniad at ddatblygu economaidd ehangach yn y Datganiad Ysgrifenedig sy'n ddyddiedig 18 Gorffennaf 2013, a ddarparwyd i'r Pwyllgor fel rhan o ddiweddariad am faterion trafnidiaeth yn y llythyr dyddiedig 9 Hydref 2013.
5.0 Cyllid Cymru
Rydych wedi gofyn am wybodaeth ynghylch Cyllid Cymru. Fodd bynnag, mae'r Pwyllgor Cyllid yn cynnal ymchwiliad ynghylch Cyllid Cymru ar hyn o bryd. Byddaf yn rhoi diweddariad i'r Pwyllgor ar ôl i hwn gael ei gwblhau.
6.0 Ymrwymiadau Trawsadrannol
6.1 Trechu Tlodi
Mae gan yr Adran rôl bwysig i'w chyflawni wrth helpu i drechu tlodi, ac mae ein prif ddylanwad yn deillio o ymdrechion i annog a chynorthwyo gweithgarwch cadw a chreu cyflogaeth ar draws Cymru. Rydym yn canolbwyntio ar drechu tlodi trwy ddiogelu swyddi, creu cyfleoedd cyflogaeth a gwella'r amodau cyffredinol i fyd busnes, gan gydnabod bod cyflogaeth yn cynnig lefel ddiogelu uchel yn erbyn tlodi.
Mae'r Adran yn datblygu nifer o gamau gweithredu sy'n cynorthwyo ymdrechion Llywodraeth Cymru i drechu tlodi, ac mae cyllideb Adrannol sylweddol wedi cael ei neilltuo i'r gweithgareddau hyn. Mae hyn yn cynnwys cyllid er mwyn:
· darparu Cronfa Twf Economaidd Cymru a chynlluniau cyllid busnes a grantiau creu swyddi eraill;
· darparu grantiau cychwyn busnes a chyngor a chymorth ynghylch entrepreneuriaeth;
· datblygu a thyfu'r farchnad gofal plant;
· datblygu gweithgarwch mentrau cymdeithasol; a
· chyflawni ein rhaglen Cyfrifoldeb Cymdeithasol Corfforaethol.
Yn ogystal, mae trechu tlodi wrth wraidd rhaglenni a pholisi trafnidiaeth. Mae trafnidiaeth yn faes gwariant arwyddocaol i nifer o aelwydydd ac mae'r ffaith bod cost tanwydd a thrafnidiaeth gyhoeddus yn codi yn rhoi pwysau ychwanegol ar aelwydydd.
Mae hyn yn golygu bod modd i hyrwyddo system trafnidiaeth fforddiadwy, hygyrch ac effeithiol wneud gwahaniaeth ymarferol go iawn i bobl. Yn ogystal, mae modd i gysylltedd trafnidiaeth da ei gwneud yn haws i bobl fanteisio ar swyddi a hyfforddiant, yn ogystal â manteisio ar wasanaethau eraill. Mae cyllideb arwyddocaol wedi cael ei hymrwymo yn ein portffolio o brosiectau trafnidiaeth, gan gynnwys y Cynllun Tocynnau Teithio Rhatach.
6.2 Datblygu Cynaliadwy
Ein nod yw cyflawni blaenoriaethau'r Rhaglen Lywodraethu ar gyfer Swyddi a Thwf, gan ganolbwyntio ar ddatblygu cynaliadwy fel y brif egwyddor drefniadol. Rydym yn datblygu dull gweithredu polisi twf gwyrdd er mwyn datblygu ein gwaith presennol ynghylch datblygu cynaliadwy a thwf economaidd. Bydd hyn yn gweithredu, yn rhannol, fel paratoad ar gyfer cyflwyno Bil Cenedlaethau'r Dyfodol, sy'n cyd-fynd gyda'n dull gweithredu tuag at greu'r amodau dros y tymor hir ar gyfer economi cynaliadwy a ffyniannus, sy'n defnyddio lefelau isel o garbon ac sy'n defnyddio adnoddau mewn ffordd effeithlon, ac sy'n gyfiawn ar lefel gymdeithasol.
Rydym yn gweithio gyda Chyngor Adnewyddu'r Economi a'r Comisiynydd Newid Hinsawdd dros Ddyfodol Cynaliadwy, gan ystyried rôl twf gwyrdd yng Nghymru fel ffordd o sicrhau ffyniant a thwf economaidd hirdymor.
Rydym yn ceisio nodi camau gweithredu cynnar er mwyn cynnwys arfer twf gwyrdd ar gyfer yr economi gyfan. Byddwn yn defnyddio'r dull gweithredu hwn er mwyn dylanwadu ar y broses o neilltuo Cronfeydd Strwythurol Ewropeaidd, a byddwn yn gweithio gydag amrediad o randdeiliaid ar draws y sector cyhoeddus, y sector preifat a'r trydydd sector er mwyn cysylltu mentrau polisi. Byddwn yn ceisio manteisio i'r eithaf ar y defnydd a wneir o'r ysgogiadau sydd ar gael er mwyn pennu cwrs ar gyfer ffyniant economaidd cynaliadwy hirdymor i Gymru.
6.3 Yr Iaith Gymraeg
Caiff Adroddiad grŵp gorchwyl a gorffen yr Iaith Gymraeg a datblygu economaidd ei gyhoeddi yn y man.
Yn ogystal, mae Grŵp Gorchwyl a Gorffen Dyffryn Teifi, a sefydlwyd ar 15 Mehefin 2013, wedi archwilio model yr ardal dwf leol er mwyn asesu ymyriadau sy'n sensitif i amgylchiadau economaidd lleol y Dyffryn, y sialensiau o ran twf ar ei chyfer a'r defnydd amlwg o'r iaith Gymraeg. I weld yr adroddiad, ewch y wefan Llywodraeth Cymru:
http://cymru.gov.uk/topics/businessandeconomy/publications/teifivalleyreport/?skip=1&lang=cy
Mae'r rhain yn adolygiadau pwysig ac ystyrir yr argymhellion ymhellach wrth ddatblygu polisi ar gyfer y dyfodol a pharhau i fod yn ymatebol i unigolion a'r gymuned fusnes ehangach. Mae holl brosiectau Cronfeydd Strwythurol UE yn integreiddio thema trawsbynciol cyfle cyfartal, a'r iaith Gymraeg, yn eu gweithrediad er mwyn cyfrannu at y gwaith o sicrhau economi gytbwys, gynaliadwy ac arloesol.
Ar hyn o bryd, ni cheir cyllideb ddynodedig ar gyfer yr iaith Gymraeg gan ei bod yn cael ei hystyried ac yn cael ei chynnwys fel rhan annatod o'r gwaith o gyflawni prosiectau unigol, rhaglenni, cymorth i fusnesau a digwyddiadau unigryw. Dros y pedair blynedd ddiwethaf, bu'r Adran yn darparu hyfforddiant ynghylch cyd-destun diwylliannol a hanesyddol yr iaith Gymraeg. Mae hyn yn galluogi staff i osod cyd-destun ar gyfer yr angen i ystyried yr iaith Gymraeg yn ein gwaith. Gwnaethpwyd buddsoddiad o oddeutu £40,000.
Atodiad A
Ymrwymiadau yn ymwneud â’r Economi a Gwyddoniaeth yn y Rhaglen Lywodraethu (ym Medi 2013 a’i ddiweddaru i gynnwys datblygiadau cyfredol)
Ymrwymiad |
Cynnydd |
Er mwyn i gwmnïau a busnesau ffynnu a thyfu, adeiladu ar y berthynas newydd sydd gan Lywodraeth Cymru gyda’r gymuned fusnes a’n partneriaid cymdeithasol a chreu fframwaith ac amodau hyblyg. |
· Mae Cyngor Adnewyddu’r Economi a'r gweithgor swyddogion wedi’u sefydlu. Cynhelir cyfarfodydd arbennig i drafod rhai pynciau polisi penodol megis ardrethi busnes.
· Yn ychwanegol, bydd gweinidogion yn ymgysylltu’n rheolaidd â’r gymuned fusnes a’n partneriaid cymdeithasol ynghylch materion sy’n ymwneud â galluogi busnesau i greu swyddi.
· Mae paneli dan arweiniad y Sector Preifat wedi darparu cyngor ynghylch hybu swyddi a thwf, datblygu dinas-ranbarthau, ardaloedd menter ac ardrethi busnes. |
Cynorthwyo cwmnïau o ansawdd sy’n perfformio’n dda ym mhob rhan o’r economi all greu swyddi, cyfoeth a Chymru gynaliadwy. |
· Mae Gwasanaeth Busnes Cymru yn weithredol ers 2 Ionawr 2013. Lansiwyd gwefan GwerthwchiGymru ym Mehefin 2013 ac mae’n cynnig amrywiaeth gynyddol o wasanaethau a gwybodaeth ddefnyddiol i brynwyr a chyflenwyr.
· Cymorth buddsoddi parhaus a ddarperir gan Gronfa Fuddsoddi BBaChau Cymru gwerth £40m; Cronfa Twf Economaidd Cymru, hyd at £100m Cronfa Gwyddorau Bywyd Cymru a'r Gronfa Fenthyciadau i Ficrofusnesau gwerth £6m. Y Gronfa Datblygu Eiddo gwerth £10m a lansiwyd ym Mai 2013. |
Datblygu cysylltiadau strategol, buddiol a chryf gyda chwmnïau angori pwysig a’u gwneud yn ganolog i Economi Cymru trwy ddatblygu cysylltiadau agos gyda’n sefydliadau addysg bellach ac uwch a manteisio i’r eithaf ar y cyfleoedd y mae’r gadwyn gyflenwi yn eu cynnig. |
· Mae rhestr o'r 38 cwmni angori ar gael ar wefan Llywodraeth Cymru yn
http://wales.gov.uk/topics/businessandeconomy/economicrenewal/programmepapers/anchor/?lang=cy
· Mae gweithdrefnau rheoli cyfrifon ffurfiol yn eu lle ar gyfer cwmnïau angori unigol.
· Mae rhaglen beilot o weithgareddau’r Adolygiad Cynhwysfawr o Wariant wedi cael ei redeg ar y cyd â rhai cwmnïau. Bydd canlyniadau’n llywio digwyddiadau’r dyfodol. |
Gweithio gyda Masnach a Buddsoddi y DU (UKTI) ac eraill i hyrwyddo cyfleoedd masnachu a buddsoddi trwy deithiau masnach wedi'u targedu a swyddfeydd dramor. |
· Dengys ffigyrau UKTI y bu cynnydd o tua 191% yn nifer y prosiectau mewnfuddsoddi yng Nghymru o’i gymharu â’r flwyddyn flaenorol.
· Cynhelir rhaglen o dros 40 taith masnach ac arddangosfa mewn 20 a rhagor o farchnadoedd tramor yn ystod 2013/14. |
|
· Cymeradwywyd cais tender Arkenford i gynhyrchu adroddiad ar dwristiaeth sgrin yng Nghymru. Mae hyn yn ymwneud â gwaith a wneir gan Croeso Cymru mewn partneriaeth ag Uwch Ranbarth Twristiaeth sy’n arwain ar y gwaith. |
Gweithio i ymestyn y tymor twristiaeth a’r manteision sydd ynghlwm wrth hyn |
· Mae’r Cynllun Cymorth Buddsoddi mewn Twristiaeth wedi cynnig cefnogaeth ar gyfer atyniadau bob tywydd/dan do i’w cynorthwyo i ymestyn y tymor.
· Hefyd, caiff busnesau twristiaeth eu hannog i farchnata eu hunain trwy gydol y flwyddyn trwy gyfrwng y Fframwaith Busnes Twristiaeth Ddigidol a ddatblygwyd i annog rhagor o ddefnydd o TGCh i farchnata. Cafwyd 635 cais am adolygiadau TGCh, dyfarnwyd grantiau i 58 prosiect, ac mae 23 prosiect ar y rhestr wrth gefn. |
Nodi cyfleoedd i wella’r cynnyrch a’r seilwaith ymwelwyr yng Nghymru |
· Mae’r Cynllun Cymorth Buddsoddi mewn Twristiaeth (TISS) bellach yn cefnogi prosiectau seilwaith trwy gynlluniau amwynderau cyrchfannau. |
Cefnogi’r buddsoddiad mewn hyfforddi a rheoli staff i gefnogi diwydiant (twristiaeth) o ansawdd uchel. |
· Mae partneriaethau yn arwain ar ddarparu hyfforddiant i fusnesau yn eu hardaloedd. Ynghyd â chyllid TISS, mae hyn yn cynorthwyo i sicrhau cynnyrch a gwasanaethau twristiaeth o ansawdd uchel yng Nghymru.
· Rhwng 1 Ebrill 2012 a 31 Mawrth 2013, cynigwyd 48 o grantiau gwerth cyfanswm o £2.3m – cefnogid cyfanswm costau prosiectau gwerth £11.8m. Rhagwelir cyfanswm o 237 swydd yn deillio o’r buddsoddiad hwn. |
Cyflwyno Ardaloedd Menter i gryfhau gallu economi Cymru i gystadlu. |
· Sefydlwyd saith Ardal Fenter. Caiff cyflawni ym mhob ardal ei arwain gan Fyrddau Menter sydd gweithio'n agos â Llywodraeth Cymru i gynyddu i'r eithaf dylanwad y cymhellion sydd ar gael. Maent yn cynnwys cymorth ariannol, Cynllunio wedi’i symleiddio a chyflwyno band eang cyflym iawn. · Mae rhagor o wybodaeth am yr Ardaloedd Menter ar gael yn: www.ardaloeddmentercymru.gov.uk |
Buddsoddi mewn busnesau twristiaeth o safon, a marchnata atyniadau ymwelwyr, llety a’r diwydiant bwyd yng Nghymru yn fwy effeithiol |
· Yn 2012/13, rhoddodd TISS gymorth gwerth £2.3m i fusnesau. Mae cymorth TISS yn gysylltiedig â’r Cynllun Graddio Ansawdd. Mae cyfanswm y busnesau 4 a 5 seren yn 69.3% ac mae gan y cynllun graddio dros 5,800 o aelodau.
· Yn ystod 2012/13, fe wnaeth y Bartneriaeth Twristiaeth Ranbarthol ddatblygu’r gwaith o hyrwyddo twristiaeth Bwyd yng Nghymru a’i diwylliant bwyd. |
Gweithredu strategaeth Cymru Ddigidol Llywodraeth Cymru, gan ddefnyddio technolegau digidol i ehangu cyfleoedd a darparu gwasanaethau gwell, mwy cost effeithiol a hygyrch ar gyfer ein holl ddinasyddion, busnesau a chymunedau. |
· Mae allgau digidol bellach wedi gostwng i 24% ac mae’r cynllun wrthi’n cael ei gyflwyno yn yr ardaloedd cyntaf i elwa ar y genhedlaeth nesaf o fand eang yng Ngwynedd. Bellach, gall dros 300,000 o gleifion drefnu apwyntiadau â’u meddygon teulu ac ail bresgripsiynau trwy Fy Iechyd Ar-lein.
· Mae 90% o brif sefydliadau sector cyhoeddus Cymru yn defnyddio Rhwydwaith y Sector Cymru:
· Mae manylion llawn ar gael yn Cymru Ddigidol. Mae adroddiad adolygu’r ddarpariaeth ar gael yn http://wales.gov.uk/topics/businessandeconomy/digitalwales/?lang=cy
|
Ceisio sefydlu Uned Troseddau busnes Cymru i fynd i'r afael â throseddu yn erbyn busnesau |
· Sefydlwyd Uned Troseddau Busnes. Penodwyd y grŵp ymgynghorol amlasiantaethol ynghylch troseddau yn erbyn busnesau ym Mehefin 2013 i lywio datblygu a gweithredu’r Uned Troseddau Busnes.
· Lansiwyd gwefan Uned Troseddau Busnes Cymru ar 20 Mehefin 2013, ac mae’n darparu adnoddau a chanllawiau ar-lein i fusnesau i wella ymwybyddiaeth o effaith troseddau yn erbyn busnesau a chynnig cymorth ynghylch atal troseddau.
|
Gweithio gyda diwydiant i symud tuag at ddulliau mwy cydnerth o gynhyrchu ynni carbon isel. Byddwn yn dod â'r prif gynhyrchwyr ynni ynghyd i rannu arferion gorau o ran lleihau carbon. |
· Penodwyd yr Athro James Durrant ym mis Tachwedd 2013 fel Cadeirydd Sêr Cymru ym maes ymchwil Ynni’r Haul ym Mhrifysgol Abertawe, sy’n canolbwyntio ar ffilmiau Ffotofoltaidd tenau. Gwaith mewn fforymau eraill megis uwchgynadleddau a chyfarfodydd ynghylch ynni â chynhyrchwyr penodol i symud Cymru ymhellach i'r cyfeiriad hwn |
Cryfhau diwydiannau creadigol Cymru a chynyddu nifer y cynyrchiadau o Gymru a ddangosir ar y prif rwydweithiau teledu. |
· Dros y ddwy flynedd ddiwethaf, dyfarnwyd cyfanswm o £2.4m o Gyllid Busnes Ad-daladwy Llywodraeth Cymru i gwmnïau creadigol.
· Mae’r prosiectau a gefnogwyd yn cynnwys y gyfres ddrama Y Gwyll / Hinterland a gynhyrchwyd yn Gymraeg a Saesneg ar gyfer y darlledwr Cymraeg S4C a BBC Cymru. Igam Ogam, y gyfres wedi'i animeiddio i blant a gynhyrchwyd yng Nghymru, a sicrhawyd comisiwn rhwydwaith i gynhyrchu ail gyfres i'w sgrinio ar Sianel 5 ac S4C.
· Mae’r rhan fwyaf o brosiectau a gefnogwyd wedi bod ym meysydd cynhyrchu ffilmiau, teledu a chyfryngau digidol, yn y cynnwys dramâu Atlantis a Thymor 2 Da Vinci's Demons sy'n cael eu darlledu yn ystod 2013/14.
· Lansiwyd y Gronfa Datblygu Digidol yn Rhagfyr 2011. Cronfa beilot gwerth £2m sy’n darparu cyllid sbarduno ar gyfer cwmnïau bychan creadigol. Rhagwelir y caiff datblygiad dros 50 o gynhyrchion digidol newydd eu cefnogi, a chrëir/diogelir mwy na 130 o swyddi. Hyd yma, cymeradwywyd cyllid gwerth dros £1.3m i 40 prosiect.
· Ers Mai 2011, mae Comisiwn Sgrin Cymru wedi cofnodi tua £46m mewn gwariant gwirioneddol ar brosiectau y mae wedi’u cynorthwyo sydd wedi cael eu ffilmio yng Nghymru.
· Roedd MEDIA Antenna Cymru yn allweddol yn y gwaith o sicrhau 778,129 Ewro ar gyfer busnesau o Gymru yn 2012-13 a grantiau nad oes rhaid eu had-dalu gwerth cyfanswm o 2,554,054 ers cychwyn rhaglen MEDIA yn 2007.
|
Pwyso am gyfran decach o gynyrchiadau teledu gan ddarlledwyr y DU megis y BBC ar gyfer cwmnïau annibynnol a leolir yng Nghymru. |
· Crëwyd y Panel Ymgynghorol ar Ddarlledu, i gynghori ar bob agwedd o Ddarlledu Gwasanaeth Cyhoeddus yng Nghymru, yn cynnwys y cyfleoedd y mae’n ei gynnig i fusnesau Cymru.
· Dyfarnwyd £100k i Gronfa Alpha Channel 4, i gefnogi syniadau creadigol yn cynnwys syniadau busnes newydd, doniau creadigol newydd, busnesau newydd a mentergarwch llawr gwlad yn sector teledu annibynnol Cymru yn benodol.
|
Disgwyl y bydd unrhyw fusnes sy’n ceisio cymorth Llywodraeth Cymru, yn cynnwys cytundebau caffael cyhoeddus, yn cytuno i’n hegwyddorion o gyfrifoldeb cymdeithasol corfforaethol, ynghyd ag ymroddiad i ddatblygu cynaliadwy, hyfforddiant ac arferion cyflogaeth da. Bydd hyn yn cynnwys lleoliadau gwaith wedi’u cynorthwyo, fel Remploy |
· Cyhoeddwyd y Fframwaith Cyfrifoldeb Cymdeithasol Corfforaethol ym Medi 2012.
· Cynhaliwyd cyfres o ddigwyddiadau ar y cyd â chwmnïau angori a Busnes yn y Gymuned. |
Adolygu pa gymorth entrepreneuraidd y mae ei angen ar gwmnïau newydd a chwmnïau bychan sydd â photensial go iawn i ffynnu ac ehangu, a sut gallwn sicrhau fod diwylliant entrepreneuraidd yn ganolog yng Nghymru. |
· Daeth gwasanaeth Busnes Cymru yn weithredol ar 2 Ionawr 2013. Sefydlwyd Bwrdd Strategol i oruchwylio Gwasanaeth Busnes Cymru. Lansiwyd gwasanaeth mentora Busnes Cymru ym mis Hydref 2012.
· Sefydlwyd Cronfa Fenthyciadau gwerth £6m ar gyfer Microfusnesau i gynorthwyo o leiaf 300 busnes, a daeth yn weithredol yng Ngorffennaf 2012. Mae CGGC a’r Undebau Credyd yn darparu’r gronfa i fentrau cymdeithasol yng Nghymru. Mae Cyllid Cymru yn darparu gweddill y gwasanaethau i ficrofusnesau yng Nghymru.
· Fe wnaeth Cynllun Cyflawni Entrepreneuriaeth Ieuenctid 2012 – 15 amlinellu cynllun gweithredu. Mae’r Cynllun yn ymestyn cwmpas y prosiect Modelau Rôl Dynamo, y gystadleuaeth flaenllaw i ysgolion cynradd a’r her i bobl ifanc 16-24 oed. Canolbwyntiau AB/AU rhanbarthol a digwyddiadau wyneb yn wyneb a chyfathrebu â phobl ifanc trwy www.syniadaumawrcymru.com
· Ers i’r gwasanaeth gychwyn yn 2008, crëwyd 10,000 o swyddi a 4,350 o fentrau newydd. Mae rhwydwaith o saith Pencampwr Entrepreneuriaeth Busnes wedi cynrychioli Cymru mewn digwyddiadau allweddol yn cynnwys Uwchgynhadledd Entrepreneuriaid Ifanc G20 a Sioe Great British Business Start Up.
|
Sicrhau y gall y sector cydfuddiannol a chydweithredol gael cyngor busnes trylwyr a bod Adran yr Economi yn arwain y Gweinidog. |
· Bydd Comisiwn Cwmnïau Cydweithredol a Chydfuddiannol Cymru yn cyflwyno adroddiad ar ddechrau 2014.
· Yn 2013/14, cafodd Canolfan Cydweithredol Cymru, Cwmnïau Cymdeithasol Cymru a Chymdeithas yr Ymddiriedolaethau Datblygu arian i ddarparu gwasanaethau aelodaeth arbenigol a chyngor ar bolisi i Lywodraeth Cymru. |
Cynorthwyo cwmnïau o ansawdd sy’n perfformio’n dda ym mhob rhan o’r economi all greu swyddi, cyfoeth a Chymru gynaliadwy |
· Sefydlwyd y Gronfa Gwyddorau Bywyd i sicrhau fod Cymru yn lleoliad mwy deniadol fyth ar gyfer ymchwil a datblygu gwyddorau bywyd, ac yn lle hyd yn oed yn well i gychwyn a datblygu busnes gwyddorau bywyd.
· (hyd at Orffennaf 2013) Mae Cymorth Arloesi i Fusnesau wedi cyflawni (334) Cynhyrchion Newydd/ lansio prosesau, (231) Eiddo Diwylliannol newydd wedi'u cofrestru. |
Gweithio gyda Chaerdydd i archwilio dichonolrwydd gwneud cais i groesawu Gemau’r Gymanwlad yn 2026. |
· Penodwyd Ove Arup i ddarparu rhagor o gyngor technegol manwl ynghylch lleoliadau posibl.
· Gweithio gyda phartneriaid i ddatblygu cais posibl a byddir yn ystyried yn llawn costau a manteision Gemau Glasgow 2014 cyn gwneud unrhyw benderfyniad i gyflwyno cais.
|
Defnyddio technolegau digidol i fynd â Chymru i’r byd a dod â’r byd i Gymru trwy sefydlu porth ar y we ar yr hyn y gall Cymru ei gynnig – o ran twristiaeth, buddsoddiad, cyfleoedd addysgol a diwylliant – i’r byd y tu allan |
· Mae elfen buddsoddi’r porth wedi cael ei gryfhau â chynnwys newydd, yn cynnwys: o astudiaethau achos wedi’u diweddaru; o Ardaloedd Menter; o mae'r cynnwys amlycaf wedi cael ei gyfieithu i nifer o ieithoedd a phorthiant Twitter.
· Mae rhaglen sy'n canolbwyntio ar hyrwyddo wedi cael ei sefydlu i sicrhau gwell amlygrwydd a rhagor o ymweliadau.
|
Gweithredu ac integreiddio ymhellach ein polisïau economaidd, addysg, sgiliau a chynllunio ar draws holl adrannau perthnasol Llywodraeth Cymru a chyrff cyflawni eraill. Y flaenoriaeth drosfwaol dros dymor nesaf y Cynulliad fydd cyflawni. Byddwn yn adolygu ac yn adnewyddu ein camau yn seiliedig ar dystiolaeth newydd i sicrhau effeithiolrwydd a hyblygrwydd holl adrannau Llywodraeth Cymru a sefydliadau eraill sy'n darparu cymorth i fusnesau |
Byddwn yn defnyddio amrywiaeth o fecanweithiau i sicrhau fod adrannau Llywodraeth Cymru yn canolbwyntio ar gyflawni i annog rhagor o weithio rhwng adrannau a chanolbwyntio ar flaenoriaeth yn ymwneud â swyddi a thwf.
· Mae adolygiad o weithrediad Cynllun Busnes Gweinidog Cymru ar draws Adrannau Llywodraeth Cymru wedi cael ei gwblhau ac wedi cael ei ystyried gan Gyngor Adnewyddu'r Economi.
· Gwnaed y Cynllun Busnes o dan Adran 75 Deddf Llywodraeth Cymru 2006 sy’n ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru baratoi cynllun sy'n amlinellu sut maent yn bwriadu ystyried buddiannau busnes wrth weithredu eu swyddogaethau.
|
Parhau â'n hymroddiad i'r Cynllun Datblygu Cynaliadwy - Cymru'n Un: Cenedl Un Blaned - sy'n disgrifio sut bydd y Llywodraeth yn defnyddio ei phwerau datganoledig - yn cynnwys iechyd, trafnidiaeth ac addysg - i wneud ein holl wasanaethau cyhoeddus yn gynaliadwy a lleihau effaith amgylcheddol Cymru ar y byd (cyfrannol) |
· Mae’r Adroddiad Blynyddol Datblygu Cynaliadwy yn amlinellu’r camau a gymerwyd ar draws yr Adrannau.
· Cyhoeddwyd adroddiad diweddaraf Llywodraeth Cymru, â chyfraniad gan ES&T, ym mis Rhagfyr 2013 .
· Cyhoeddir adroddiad nesaf Llywodraeth Cymru yn ddiweddarach eleni. |
Annog rhagor o bobl ifanc i ennill y sgiliau a fydd yn datblygu potensial Cymru ar gyfer twf economaidd. Mae pynciau megis gwyddoniaeth, technoleg, peirianneg a mathemateg (STEM) yn arbennig o bwysig yn y cyd-destun hwn. Byddwn yn hyrwyddo ymgysylltu â’r pynciau hyn ar draws yr ystod cwricwlwm ac oedran hyd at Addysg Uwch a lefel uwchraddedig, trwy'r Academi Wyddoniaeth Genedlaethol (NSA) a fydd yn gysylltiedig â'r agenda gwyddoniaeth ehangach a gwaith Prif Ymgynghorydd Gwyddonol newydd Cymru. |
· Lansiodd yr Academi Wyddoniaeth Genedlaethol rownd cyllid grantiau dwy flynedd yn haf 2013, a ddaw i ben ym Mawrth 2015. Cafwyd 57 cais am gynlluniau gwerth £3 miliwn, a chawsant eu gwerthuso'n annibynnol. Cymeradwywyd tua 30 prosiect, gwerth cyfanswm o £1.4m, yn canolbwyntio ar Wyddoniaeth, Technoleg, Peirianneg a Mathemateg (STEM). |
Hyrwyddo ymgysylltiad â phynciau gwyddoniaeth, technoleg, peirianneg a mathemateg (STEM) trwy’r Academi Wyddoniaeth Genedlaethol |
|
Ceisio sicrhau bod gan bob eiddo preswyl a phob busnes yng Nghymru fynediad at Fand Eang y Genhedlaeth Nesaf erbyn 2015 gyda'r uchelgais bod 50% neu fwy yn cael mynediad at 100Mbps. Yn union fel rhaglen Band Eang lwyddiannus flaenorol Llywodraeth Cymru, credwn, fodd bynnag, fod rhaid i Brosiect Band Eang y Genhedlaeth Nesaf i Gymru fod yn gydbwysedd rhwng camau gweithredu efelychu'r cyflenwyr a’r galw. |
· Cychwynnodd y gwaith o gyflwyno Cyflymu Cymru yn Chwefror 2013. Yn ystod 2013/14, mae gwaith wedi cychwyn yn nwy ran o o dair awdurdodau unedol Cymru.
· Bellach, mae gan dros 100,000 o gartrefi a busnesau fynediad at fand eang cyflym iawn o ganlyniad uniongyrchol i Cyflymu Cymru. Mae’r rhaglen ar y trywydd iawn.
· Mae rhagor o wybodaeth am y cynllun newydd ar gael ar wefan Llywodraeth Cymru. |
Ceisio sicrhau fod mynediad at fand eang cyflym ar gael i ardaloedd gwledig. |
· Yn 2013/14, bydd gwaith yn digwydd yn nwy ran o dair o awdurdodau unedol Cymru, ac mae’r mwyafrif ohonynt yn wledig. Bydd y gwaith o gyflwyno'r cynllun yn digwydd yn yr holl awdurdodau unedol yn ystod 2014/15.
· Mae’r Cynllun Cymorth Band Eang yn cefnogi cartrefi, busnesau a chymunedau sydd ag angen di-oed am gysylltiad band eang sylfaenol. Ers Gorffennaf 2010, mae’r cynllun wedi cynorthwyo dros 5,500 o fuddiolwyr, yn cynnwys 31 cymuned, ac mae cyllid gwerth tua £4.8m wedi'i neilltuo i'r cynllun. Ymestynnwyd y cynllun tan 30 Medi 2013. Mae cynllun newydd ar gael ers 2013 a dyma’r cam cyntaf tuag at fynd i’r afael â’r 4% o safleoedd anodd eu cyrraedd nad ydynt wedi’u cwmpasu gan raglen Cyflymu Cymru ar hyn o bryd. Mae rhagor o wybodaeth am y cynllun newydd ar gael ar wefan Llywodraeth Cymru.
|
Gweithio gydag Ofcom i sicrhau y caiff rheoleiddio ei ddefnyddio fel dull o sicrhau fod gan gymunedau gwledig fynediad at fand eang cyflymach a gwasanaethau digidol newydd. |
· Rydym yn parhau i weithio gydag Ofcom i hybu gwell mynediad at wasanaethau digidol trwy drafodaethau rheolaidd, a thrwy sylwadau a chyfraniadau at eu hymgynghoriadau.
· Rydym yn gweithio gydag Ofcom a gweithredwyr y rhwydweithiau ffôn symudol i sicrhau y bydd y trwyddedau a arwerthwyd yn ddiweddar yn paratoi'r ffordd ar gyfer cyflwyno band eang symudol 4Gar draws Cymru gan gychwyn yn haf 2013. Mae’r drwydded a ddyfarnwyd i Telefonica 02 yn ei gwneud yn orfod i gyrraedd o leiaf 95% o boblogaeth Cymru erbyn diwedd 2017. Bydd cyflwyno hyn yn arwain at fanteision sylweddol i bobl yn enwedig yng Nghymru wledig, oherwydd nid yw llawer ohonynt erioed wedi gallu cael gwasanaethau symudol 3G o'r blaen.
· Rydym wedi comisiynu astudiaethau dichonolrwydd i bennu ymyriadau addas i wella signal ffonau symudol ar draws Cymru, yn cynnwys gwasanaethau symudol ar draws y rhwydwaith rheilffyrdd.
|
Defnyddio’r technolegau [digidol] hyn i greu hyd yn oed mwy o atebolrwydd a thryloywder yn ein prosesau democrataidd i sicrhau bod ein holl ddinasyddion yn chwarae rhan lawn yn y gymdeithas drwy sicrhau bod gwybodaeth a gwasanaethau gwneud penderfyniadau yn fwy hygyrch ar-lein |
· Mae Llywodraeth Cymru bellach yn arwain ar ddatblygiad strategaeth Digidol yn Gyntaf ar gyfer sector cyhoeddus Cymru – sy’n disgrifio sut bydd ein holl wasanaethau cyhoeddus, lle gellir sicrhau hynny, ar gael i ddinasyddion trwy gyfryngau digidol.
· Caiff y strategaeth Digidol yn Gyntaf ei gyhoeddi yn ddiweddarach eleni. |
Atodiad B
Gwerthuso’r Rhaglenni
Rhaglen
|
Dyddiad Gwerthuso |
Prosiect Marchnata Cyrchfannau (cyllidir gan yr UE) |
Medi 2013 |
Prosiect Gwerthuso Marchnata Croeso Cymru |
Prosiect parhaus |
Cynllun Trafnidiaeth Cenedlaethol - Cyflawni Prosiectau Ffyrdd Mawr |
Bydd yn dilyn proses gymeradwyo chwe cham o werthusiad cychwynnol o drafnidiaeth hyd at y gwaith adeiladu. Gwneir gwerthusiad ffurfiol o bob prosiect er mwyn symud ymlaen â phob cam nesaf. Byddir yn craffu’n sylweddol ar achosion busnes terfynol prosiectau trwy’r broses Ymchwiliadau Lleol Cyhoeddus. |
Achos Busnes Llawn Band Eang y Genhedlaeth Nesaf i Gymru (Cyflymu Cymru) |
Gorffennaf 2012 |
Achos Busnes Amlinellol PSBA |
Gorffennaf 2013 |
Adolygiad Gwerth am Arian PSBA |
Rhagfyr 2012 |
Ail Adolygiad Porth PSBA |
Gorffennaf 2013 |
Arloesi ar Gyfer Busnes – Canol Tymor |
Mawrth 2013 |
Smart Cymru – Canol Tymor |
Hydref 2013 |
Adolygiad Gwerth am Arian o Drefniadau Cyllido Craidd Llywodraeth Cymru ar gyfer Datblygiad Mentrau Cymdeithasol: - Cynghrair Mentrau Cymdeithasol Cymru - Cwmnïau Cymdeithasol Cymru - Cymdeithas Ymddiriedolaethau Datblygu Cymru |
- Rhagfyr 2012 - Ionawr 2013 - Gorffennaf 2013 |
Darpariaeth Entrepreneuriaeth yng Nghymru, yn cynnwys adolygiad o Entrepreneuriaeth Ieuenctid, Busnesau Newydd a Busnesau Newydd a Chanddynt Botensial Mawr |
Rhagfyr 2013 |
Gwerthusiad o Fusnes Cymru a Gwefan GwerthwchiGymru |
Cyhoeddir yr adroddiad ym Mawrth 2014 |
Gwerthusiad o Gam Cyntaf Ennyn Diddordeb Cwsmeriaid |
Rhagfyr 2013 |
Gwerthusiad Canol Tymor o Brosiect Busnesau Newydd a Chanddynt Botensial Mawr UE |
Cyhoeddir yr adroddiad yn Chwefror 2014 |
Gwerthusiad Terfynol o’r Prosiect Rhwydweithiau Menter UE |
Medi 2013 |
Gwerthusiad canol tymor o Raglenni Fframwaith Busnes Twristiaeth Digidol UE |
Mai 2013 |
Adolygiad o Effaith Economaidd Buddsoddi yn Sector Twristiaeth Cymru |
Gorffennaf 2012 |
Twristiaeth Gynaliadwy |
Mehefin 2012 |
Twristiaeth Arfordirol |
Mehefin 2012 |
Adolygiad Allanol o Bwyllgor Defnyddwyr Cludiant Cyhoeddus Cymru |
Medi 2013 |
Adolygiad o Wasanaeth Bws Gwennol Caerdydd |
Cyhoeddir yr adroddiad yn Ionawr 2014 |
Adolygiad annibynnol o ad-daliadau tocynnau teithio rhatach ar fysiau |
Mae’r asesiad yn mynd rhagddo |
eFusnes a Chymorth ar gyfer TGCh – gwerthusiad diwedd rhaglen o Raglenni’r UE ar gyfer Cystadleurwydd a Chydgyfeiriant |
Mawrth 2013 |
Gwerthusiad diwedd prosiect o Brosiect UE e-Drosedd Cymru |
Ebrill 2012 |
Marchnata – digwyddiadau unigryw dan arweiniad Sectorau - gwerthusiadau wedi'r digwyddiadau (e.e. digwydd blynyddol BioCymru bob mis Mawrth) |
Parhaus |
Gwasanaethau trefnu apwyntiadau yng nghynadleddau ac arddangosfeydd allanol diwydiannau Cymru dan arweiniad Sectorau |
Parhaus |
Gwerthusiad diwedd ymgyrch Busnes Cymru |
Blynyddol ar ddiwedd y flwyddyn ariannol |
Gwerthusiad diwedd ymgyrch Busnesau Newydd ac Entrepreneuriaeth |
Blynyddol ar ddiwedd y flwyddyn ariannol |
Adroddiad canol tymor JEREMIE Adolygiad o Fynediad at Gyllid – Cam 1 Adolygiad o Fynediad at Gyllid – Cam 2 |
Chwefror 2012 Mehefin 2013 Tachwedd 2013
|
Cronfa Twf Economaidd Cymru (WEGF) |
Parhaus trwy’r ymgyrch - a chrynodeb ar y diwedd |
TrawsCymru - Rhwydwaith Bysiau Pellter Hir - Adolygiad gan Sefydliad Bevan |
Cwblhawyd yn Ionawr 2014 |
Adolygiadau o Sectorau: · Gwasanaethau Proffesiynol ac Ariannol · Deunyddiau a Gweithgynhyrchu Uwch · Bwrdd Cynghori Twristiaeth · Adeiladu · Creadigol · TGCh · Gwyddorau Bywyd · Ynni a’r Amgylchedd |
Mae’r adolygiadau hyn yn mynd rhagddynt a bwriedir eu cwblhau yn Ebrill 2014.
Cyhoeddir ystadegau manwl blynyddol ar gyfer sectorau blaenoriaethol.
|
Ail Adolygiad OGC Gateway™: Strategaeth Cyflawni Rhaglen Construction Futures Cymru |
Chwefror 2013 |
Ardaloedd Menter Cymru · Ardaloedd Menter Cymru: Diweddariad ar Gynnydd
· Arolwg hydredol o fusnesau a leolir mewn Ardaloedd Menter |
· Hydref 2013
· Wedi cychwyn, bydd adroddiad ym Mawrth 2014 |
Pwyllgor Defnyddwyr Cludiant Cyhoeddus |
Haf 2013 a chyhoeddwyd yr adroddiad ar ôl hynny |
Cyllid craidd ar gyfer Sustrans |
Cwblhawyd yr adolygiad o’r grant erbyn Medi 2013 |
Cyllid craidd ar gyfer RoSPA |
Cwblhawyd yr adolygiad o’r grant erbyn Medi 2013 |
Atodiad C
Tablau Alldro 2012-13
RHAN – ALLDRO 2012/13 Y PRIF GRŴP GWARIANT (MEG) - YR ECONOMI, GWYDDONIAETH A THRAFNIDIAETH |
|
|
|
||||
|
|
|
|
|
|||
|
|
|
|
|
|||
|
CYLLIDEB REFENIW – Terfyn Gwariant Adrannol |
£000oedd |
|
|
|||
Mae Rhaglenni Gwariant |
Camau |
2012-13 |
Alldro 2012-13 |
|
|||
Sectorau a Busnes |
SIF Etifeddol |
4,360 |
4,241 |
|
|||
Sectorau |
31,442 |
29,193 |
|
||||
Entrepreneuriaeth a Gwybodaeth Busnes |
14,429 |
12,294 |
|
||||
|
Cyfanswm Sectorau a Busnes |
50,231 |
45,728 |
|
|||
Gwyddoniaeth ac Arloesedd |
Arloesedd |
9,324 |
9,894 |
|
|||
|
Gwyddoniaeth |
1,332 |
964 |
|
|||
|
Cyfanswm Gwyddoniaeth ac Arloesedd |
10,656 |
10,858 |
|
|||
Digwyddiadau Mawr |
Digwyddiadau Mawr |
4,831 |
4,142 |
|
|||
|
Cyfanswm Digwyddiadau Mawr |
4,831 |
4,142 |
|
|||
Seilwaith |
Cyflawni Seilwaith TGCh |
9,245 |
20,028 |
|
|||
Cyflawni Seilwaith TGCh – Heb fod yn Arian Parod |
1,813 |
2,282 |
|
||||
Cyflawni Seilwaith sy’n Gysylltiedig ag Eiddo |
10,932 |
11,536 |
|
||||
|
Cyfanswm Seilwaith |
21,990 |
33,846 |
|
|||
Rhaglenni Strategaeth a Chorfforaethol |
Rhaglenni Corfforaethol |
3,901 |
3,105 |
|
|||
Rhaglenni Corfforaethol - Heb fod yn Arian Parod |
347 |
425 |
|
||||
Marchnata |
2,796 |
3,236 |
|
||||
Cyllid Cymru |
4,802 |
3,147 |
|
||||
Rhaglenni Strategaeth |
979 |
304 |
|
||||
|
Cyfanswm Rhaglenni Strategaeth a Chorfforaethol |
12,825 |
10,217 |
|
|||
Gweithrediadau Traffyrdd a Chefnffyrdd |
Gweithrediadau Traffyrdd a Chefnffyrdd |
62,987 |
68,093 |
|
|||
Gwella a Chynnal Rhwydwaith y Cefnffyrdd - Heb fod yn Arian Parod |
140,000 |
133,052 |
|
||||
|
|
|
|
||||
|
Cyfanswm Gweithrediadau Traffyrdd a Chefnffyrdd |
202,987 |
201,145 |
|
|||
Gwasanaethau Rheilffyrdd ac Awyr |
Gwasanaethau Rheilffyrdd ac Awyr |
177,780 |
176,224 |
|
|||
|
|
|
|
|
|||
|
Cyfanswm Gwasanaethau Rheilffyrdd ac Awyr |
177,780 |
176,224 |
|
|||
Teithio Cynaliadwy |
Teithio Cynaliadwy |
101,507 |
104,268 |
|
|||
|
Cyfanswm Teithio Cynaliadwy |
101,507 |
104,268 |
|
|||
Gwella Diogelwch ar y Ffyrdd |
Gwella Diogelwch ar y Ffyrdd |
5,716 |
5,885 |
|
|||
|
|
|
|
||||
|
Cyfanswm Gwella Diogelwch ar y Ffyrdd |
5,716 |
5,885 |
|
|||
|
Cyfanswm Refeniw |
588,523 |
592,313 |
|
|||
|
|
|
|
|
|||
|
|
|
|
||||
|
|
|
|
||||
|
|
|
|
||||
|
CYLLIDEB CYFALAF – Terfyn Gwariant Adrannol |
£000oedd |
|
|||||||
Maes Rhaglenni Gwariant |
Camau |
2012-13 |
Alldro 2012-13 |
|||||||
Sectorau a Busnes |
SIF Etifeddol |
20,004 |
18,170 |
|||||||
Sectorau |
77,623 |
83,351 |
||||||||
|
Cyfanswm Sectorau a Busnes |
97,627 |
101,521 |
|||||||
Gwyddoniaeth ac Arloesedd |
Arloesedd |
1,107 |
755 |
|||||||
|
Gwyddoniaeth |
|
6,200 |
|||||||
|
Cyfanswm Gwyddoniaeth ac Arloesedd |
1,107 |
6,955 |
|||||||
Digwyddiadau Mawr |
Digwyddiadau Mawr |
|
350 |
|||||||
|
Cyfanswm Digwyddiadau Mawr |
0 |
350 |
|||||||
Seilwaith |
Cyflawni Seilwaith TGCh |
4,172 |
5,287 |
|||||||
Cyflawni Seilwaith sy’n Gysylltiedig ag Eiddo |
53,559 |
51,177 |
||||||||
|
Cyfanswm Seilwaith |
57,731 |
56,464 |
|||||||
Rhaglenni Strategaeth a Chorfforaethol |
Cyllid Cymru |
-15,500 |
-15,700 |
|||||||
Rhaglenni Corfforaethol |
417 |
78 |
||||||||
|
Cyfanswm Rhaglenni Strategaeth a Chorfforaethol |
-15,083 |
-15,622 |
|||||||
Gweithrediadau Priffyrdd a Thraffyrdd |
Motorway & Trunk Road Operations |
62,358 |
58,090 |
|||||||
|
|
|
||||||||
|
Total Motorway & Trunk Road Network Operations |
62,358 |
58,090 |
|||||||
Buddsoddi yn y Ffyrdd a’r Rheilffyrdd |
Buddsoddi yn y Ffyrdd a’r Rheilffyrdd |
114,535 |
116,816 |
|||||||
|
Cyfanswm Buddsoddi yn y Ffyrdd a’r Rheilffyrdd |
114,535 |
116,816 |
|||||||
Teithio Cynaliadwy |
Teithio Cynaliadwy |
31,095 |
33,831 |
|||||||
|
Cyfanswm Teithio Cynaliadwy |
31,095 |
33,831 |
|||||||
Gwella a Chynnal Seilwaith Ffyrdd Lleol |
Gwella a Chynnal Seilwaith Ffyrdd Lleol |
13,996 |
13,883 |
|||||||
Cyllid Cyfalaf Cyffredinol - Ffyrdd |
15,332 |
15,332 |
||||||||
|
Cyfanswm Gwella a Chynnal Seilwaith Ffyrdd Lleol |
29,328 |
29,215 |
|||||||
Gwella Diogelwch ar y Ffyrdd |
Gwella Diogelwch ar y Ffyrdd |
6,900 |
8,202 |
|||||||
|
Cyfanswm Gwella Diogelwch ar y Ffyrdd |
6,900 |
8,202 |
|||||||
|
|
|
|
|||||||
|
Cyfanswm Cyfalaf |
385,598 |
395,822 |
|||||||
|
|
|
|
|||||||
|
|
|
|
|||||||
|
|
|
|
|||||||
|
|
|
|
|||||||
|
|
|
|
|
||||||
|
|
|
|
|
||||||
|
|
|
|
|
||||||
|
|
|
|
|
||||||
|
|
|
|
|
||||||
|
CYLLIDEB REFENIW – Gwariant a reolir yn flynyddol |
£000oedd |
|
|
||||||
Maes Rhaglenni Gwariant |
Camau |
2012-13 |
Alldro 2012-13 |
|
||||||
Seilwaith |
Cyflawni Seilwaith sy’n Gysylltiedig ag Eiddo - Heb fod yn Arian Parod |
20,000 |
14,036 |
|
||||||
Gweithrediadau Priffyrdd a Thraffyrdd |
Gweithrediadau Priffyrdd a Thraffyrdd |
35,233 |
14,013 |
|
||||||
|
Cyfanswm Seilwaith |
55,233 |
28,049 |
|
||||||
|
|
|
|
|
||||||
|
Cyfanswm Gwariant a Reolir yn Flynyddol |
55,233 |
28,049 |
|
||||||
|
|
|
|
|
||||||
|
|
£000oedd |
|
|
||||||
Crynodeb |
2012-13 |
Alldro 2012-13 |
|
|||||||
|
|
|
|
|||||||
Refeniw |
588,523 |
592,313 |
|
|||||||
Cyfalaf |
385,598 |
395,822 |
|
|||||||
Cyfanswm |
974,121 |
988,135 |
|
|||||||
|
|
|
|
|||||||
Gwariant a Reolir yn Flynyddol |
55,233 |
28,049 |
|
|||||||
|
|
|
|
|||||||
Cyfanswm |
1,029,354 |
1,016,184 |
|
|||||||
Atodiad D
Alldro 2012-13 Sectorau Blaenoriaeth |
|
||
|
|
|
|
Refeniw |
2012/13 |
||
BEL |
Enw BEL |
Cyllideb Atodol £'000 |
Alldro £'000 |
|
|
|
|
3765 |
TGCh |
6,510 |
4,012 |
3764 |
Gwyddorau Bywyd |
331 |
575 |
3763 |
Gwasanaethau Proffesiynol ac Ariannol |
121 |
212 |
3762 |
Diwydiannau Creadigol |
1,153 |
876 |
3761 |
Deunyddiau a Gweithgynhyrchu Uwch |
1,557 |
1,482 |
3760 |
Ynni a’r Amgylchedd |
1,500 |
334 |
2970 |
Hyrwyddo Bwyd Cymru |
5,438 |
5,872 |
6250 |
Twristiaeth |
11,123 |
12,014 |
3752 |
Adeiladu |
97 |
62 |
|
|
|
|
|
|
27,830 |
25,439 |
|
|
|
|
Cyfalaf |
2012/13 |
||
BEL |
Enw BEL |
Cyllideb Atodol £'000 |
Alldro £'000 |
|
|
|
|
3765 |
TGCh |
3,108 |
1,610 |
3764 |
Gwyddorau Bywyd |
3,106 |
7,603 |
3763 |
Gwasanaethau Proffesiynol ac Ariannol |
1,695 |
1,989 |
3762 |
Diwydiannau Creadigol |
1,022 |
809 |
3761 |
Deunyddiau a Gweithgynhyrchu Uwch |
13,772 |
11,290 |
3760 |
Ynni a’r Amgylchedd |
5,838 |
2,204 |
2970 |
Hyrwyddo Bwyd Cymru |
2,117 |
6,524 |
3752 |
Adeiladu |
1,652 |
758 |
6250 |
Twristiaeth |
2,995 |
2,553 |
|
|
|
|
|
|
35,305 |
35,340 |
|
|
|
|
Cyfanswm y Gyllideb |
63,135 |
60,779 |
|
|
|
|
|